Jeremiah 49

Neges am Ammon

1Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud am bobl Ammon:

“Oes gan Israel ddim disgynyddion?
Oes neb ohonyn nhw ar ôl i etifeddu'r tir?
Ai dyna pam dych chi sy'n addoli Milcom
49:1 Milcom Un o dduwiau Ammon – 1 Brenhinoedd 11:5. Enw arall arno oedd Molech – 2 Brenhinoedd 23:10; Jeremeia 32:35

wedi dwyn tir Gad
49:1 tir Gad roedd tir llwyth Gad i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen.
a setlo yn ei drefi?
2Felly mae'r amser yn dod”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn—
“pan fydd sŵn rhyfel i'w glywed yn Rabba.
Bydd prifddinas Ammon yn domen o adfeilion,
a bydd ei phentrefi yn cael eu llosgi'n ulw.
Wedyn bydd Israel yn cymryd ei thir yn ôl
gan y rhai gymrodd ei thir oddi arni,”

—meddai'r Arglwydd.
3“Udwch, bobl Cheshbon
49:3 Cheshbon gw. 48:45; roedd Cheshbon ar y ffin rhwng Moab ac Ammon.
, am fod Ai wedi ei bwrw i lawr!
Gwaeddwch, chi sy'n y pentrefi o gwmpas Rabba!
Gwisgwch sachliain a galarwch!
Rhedwch o gwmpas yn anafu eich hunain!
Bydd eich duw Milcom yn cael ei gymryd i ffwrdd,
a'i offeiriaid a'i swyddogion gydag e!
4Pam dych chi'n brolio eich bod mor gryf?
Mae eich cryfder yn diflannu, bobl anffyddlon!
Roeddech yn trystio eich cyfoeth, ac yn meddwl,
‘Pwy fyddai'n meiddio ymosod arnon ni?’
5Wel, dw i'n mynd i dy ddychryn di o bob cyfeiriad,”
meddai'r Meistr, yr Arglwydd holl-bwerus.
“Byddi'n cael dy yrru ar chwâl,
a fydd neb yna i helpu'r ffoaduriaid.

6“Ond wedyn bydda i'n rhoi'r cwbl gollodd Ammon yn ôl iddi.”


—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.

Neges am Edom

7Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus yn ei ddweud am Edom:

“Oes rhywun doeth ar ôl yn Teman?
49:7 Teman Tref bwysig yng ngogledd Edom, wedi ei henwi ar ôl ŵyr i Esau – gw. Genesis 36:10-11. Weithiau yn enw ar ogledd Edom i gyd.

Oes neb call ar ôl i roi cyngor?
Ydy eu doethineb nhw wedi diflannu?
8Ffowch! Trowch yn ôl!
Ewch i guddio'n bell, bobl Dedan!
49:8 Dedan Enw llwyth oedd yn byw yn ne-ddwyrain Edom.

Dw i'n dod â dinistr ar ddisgynyddion Esau f
mae'n amser i mi eu cosbi.
9Petai casglwyr grawnwin yn dod atat ti,
oni fydden nhw'n gadael rhywbeth i'w loffa? g
Petai lladron yn dod yn y nos,
bydden nhw ond yn dwyn beth oedden nhw eisiau! h
10Ond dw i'n mynd i gymryd popeth oddi ar bobl Esau.
Bydda i'n dod o hyd iddyn nhw;
fyddan nhw ddim yn gallu cuddio.
Bydd eu plant, eu perthnasau, a'u cymdogion i gyd
yn cael eu dinistrio. Fydd neb ar ôl!
11Gadael dy blant amddifad gyda mi,
gwna i ofalu amdanyn nhw.
Bydd dy weddwon hefyd yn gallu dibynnu arna i.”

12Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud: “Os oes rhaid i bobl ddiniwed ddiodde, wyt ti'n meddwl y byddi di'n dianc? Na! Bydd rhaid i tithau yfed o gwpan barn. 13Dw i wedi addo ar lw,” meddai'r Arglwydd. “Bydd Bosra
49:13 Bosra Prifddinas Edom.
yn cael ei throi'n adfeilion. Bydd yn destun sbort. Bydd yn cael ei dinistrio'n llwyr, a'i gwneud yn enghraifft o bobl wedi eu melltithio. Bydd eu trefi yn cael eu gadael yn adfeilion am byth.”

Jeremeia:
14“Ces i neges gan yr Arglwydd,
pan gafodd negesydd ei anfon i'r gwledydd, yn dweud,
‘Dowch at eich gilydd i ymosod arni hi.
Gadewch i ni fynd i ryfel yn ei herbyn!’”
Yr Arglwydd:
15“Dw i'n mynd i dy wneud di'n wlad fach wan;
bydd pawb yn cael hwyl ar dy ben.
16Mae dy allu i ddychryn pobl
a dy falchder wedi dy dwyllo di.
Ti'n byw yn saff yng nghysgod y graig,
yn byw ar ben y mynydd –
ond hyd yn oed petaet ti'n gwneud dy nyth mor uchel â'r eryr,
bydda i'n dy dynnu di i lawr.” j

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.

17“Bydd Edom yn cael ei dinistrio'n llwyr. Bydd pawb sy'n pasio heibio wedi dychryn am eu bywydau ac yn chwibanu mewn rhyfeddod wrth weld y dinistr. 18Bydd yn union yr un fath â Sodom a Gomorra a'r pentrefi o'u cwmpas. Fydd neb yn byw nac yn setlo i lawr yno eto,”—yr Arglwydd sy'n dweud hyn. 19“Bydda i'n gyrru pobl Edom o'u tir, fel llew yn dod allan o goedwig wyllt yr Iorddonen ac yn gyrru'r praidd yn y borfa agored ar chwâl. Bydda i'n dewis y meheryn gorau i'w llarpio. Achos pwy sy'n debyg i mi? Pwy sy'n mynd i'm galw i gyfri? Pa fugail sy'n gallu sefyll yn fy erbyn i?”

20Dyma gynllun yr Arglwydd yn erbyn Edom. Dyma mae'n bwriadu ei wneud i bobl Teman.

“Bydd hyd yn oed yr ŵyn bach yn cael eu llusgo i ffwrdd.
Bydd eu corlan yn cael ei dinistrio am beth wnaethon nhw.
21Bydd pobl y ddaear yn crynu wrth glywed am eu cwymp.
Bydd eu sŵn nhw'n gweiddi i'w glywed wrth y Môr Coch.
49:21 Môr Coch Hebraeg, “Môr y Brwyn”.

22Edrychwch! Bydd y gelyn fel eryr yn codi i'r awyr,
yn lledu ei adenydd ac yn plymio i lawr ar Bosra.
Ar y diwrnod hwnnw bydd milwyr Edom wedi dychryn,
fel gwraig ar fin cael babi!”

Neges am Damascus

23Neges am Damascus:

“Mae pobl Chamath ac Arpad
49:23 Chamath ac Arpad Dwy dref yn Syria.
wedi drysu.
Maen nhw wedi clywed newyddion drwg.
Maen nhw'n poeni ac wedi cynhyrfu
fel môr stormus sy'n methu bod yn llonydd.
24Mae pobl Damascus wedi colli pob hyder,
ac wedi ffoi mewn panig.
Mae poen a phryder wedi gafael ynddyn nhw,
fel gwraig ar fin cael babi.
25Bydd y ddinas enwog yn wag cyn bo hir –
y ddinas oedd unwaith yn llawn bwrlwm a hwyl!
26Bydd ei bechgyn ifanc yn syrthio'n farw ar ei strydoedd,
a'i milwyr i gyd yn cael eu lladd ar y diwrnod hwnnw,”

—yr Arglwydd holl-bwerus sy'n dweud hyn.
27“Bydda i'n llosgi waliau Damascus,
a bydd y tân yn dinistrio caerau amddiffynnol Ben-hadad
49:27 Ben-hadad Enw neu deitl ar nifer o frenhinoedd Damascus (1 Brenhinoedd 15:18, 20; 2 Brenhinoedd 13:24). Ystyr yr enw ydy "mab Hadad". Hadad oedd Duw'r storm.
.” n

Neges am Cedar a Chatsor

28Neges am Cedar
49:28 Cedar Nifer o lwythau nomadig oedd yn bell i'r dwyrain. gw. Jeremeia 2:11
ac ardaloedd Chatsor, gafodd eu taro gan Nebwchadnesar, brenin Babilon.

Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

“Fyddin Babilon, codwch ac ymosod ar Cedar!
Dinistriwch bobl y dwyrain.
29Cymerwch eu pebyll a'u preiddiau,
eu llenni a'u hoffer, a'u camelod i gario'r cwbl i ffwrdd.
Bydd pobl yn gweiddi: ‘Does ond dychryn ym mhobman!’
30Bobl Chatsor, rhedwch i ffwrdd;
ewch i guddio mewn ogofâu!
Mae Nebwchadnesar, brenin Babilon,
yn bwriadu ymosod arnoch chi.
Mae e'n bwriadu eich dinistrio chi!
31Codwch, ac ymosod
ar wlad sy'n meddwl ei bod mor saff!”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
Does dim giatiau dwbl gyda barrau i'w hamddiffyn,
a does neb wrth ymyl i'w helpu.
32Bydd y milwyr yn cymryd ei chamelod
a'i gyrroedd o wartheg yn ysbail.
Bydda i'n gyrru ar chwâl
bawb sy'n byw ar ymylon yr anialwch.
Daw dinistr arnyn nhw o bob cyfeiriad,

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
33Bydd Chatsor wedi ei throi'n adfeilion am byth.
Bydd yn lle i siacaliaid fyw –
fydd neb yn byw nac yn setlo i lawr yno.

Neges am Elam
49:33 Elam Gwlad i'r dwyrain o Babilon a'r Afon Tigris. De-orllewin Iran heddiw. Y brifddinas oedd Swsa.

34Y neges roddodd yr Arglwydd i Jeremeia am wlad Elam, yn fuan ar ôl i Sedeceia gael ei wneud yn frenin ar Jwda.

35Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus yn ei ddweud:

“Dw i'n mynd i ladd bwasaethwyr Elam,
sef asgwrn cefn eu grym milwrol.
36Dw i'n mynd i ddod â gelynion
yn erbyn pobl Elam o bob cyfeiriad,
a byddan nhw'n cael eu gyrru ar chwâl.
Bydd ffoaduriaid o Elam yn dianc i bobman.
37Bydd pobl Elam wedi eu dychryn yn lân
gan y gelynion sydd am eu lladd nhw.
Dw i wedi gwylltio'n lân hefo nhw,
a dw i'n mynd i'w dinistrio nhw,”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
“Bydda i'n anfon byddinoedd eu gelynion ar eu holau,
nes bydda i wedi eu dinistrio nhw'n llwyr.
38Bydda i'n teyrnasu dros Elam.
Bydda i'n lladd eu brenin a'u swyddogion,”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.

39“Ond wedyn bydda i'n rhoi'r cwbl gollodd Elam yn ôl iddi,”


—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
Copyright information for CYM